....

Customised diets, individual to your flock

..

Dietau wedi’u creu yn benodol i’ch haid chi

....

....

As a specialist poultry feed supplier we have an extensive range of poultry feed diets to match all requirements, but if a new situation arises, we will create a diet that is customised to the specific needs of your flock, optimising its performance to meet your individual laying objectives.

We currently produce over 400 different poultry feed diets, offering outstanding benefits for your birds’ performance, welfare and ultimately your profit.

Fresh poultry feed, made to order

Our poultry feed is made to meet your order, not made to a stock – so it is always fresh.   We have designed diets for all types of commercial poultry; free-range, barn and organic layers, as well as specialist breedering diets for parent and grandparent stock and seasonal feed for turkeys.  We design specifically focussed poultry feeds which provide increased control of egg size, improved shell quality, as well as nutritionally enhanced eggs to meet specific market requirements.

Finding the right balance between levels of nutrition, energy and performance is what we are focused to achieve for you and your flocks.

We have been egg producers for 90 years, making our own feed for much of that time, and our approach to producing poultry feed has been consistent – use the best raw materials (not variable and inconsistent by-products) and do not cut corners.

Ingredients from known and trusted origins

For many years of poultry feed manufacture, our approach to producing layers feeds has remained a constant.  As specialist poultry feed suppliers, we have an uncompromising approach to quality control using feed ingredients from known and trusted origins, enabling us to ensure feed consistency in terms of grist, and the nutrition provided to the birds we feed.

Our specialist poultry feed mill has been designed to grind raw materials optimally using any of our 18 different grist settings and offers the birds we feed the most consistent feed grist found in the UK.  The different grists of mash allow us to tailor feeds specifically to all stages of the birds’ life cycle as well as all types of birds.

..

Fel cyflenwr sy’n arbenigo mewn bwyd dofednod, mae gennym ni amrywiaeth helaeth o ddietau bwyd dofednod i ateb pob gofyniad, ond os bydd sefyllfa newydd yn codi, fe fyddwn ni’n creu diet sy’n benodol i ddiwallu anghenion eich haid chi, gan sicrhau ei bod yn perfformio ar ei gorau i fodloni’ch amcanion dodwy unigol chi.

Rydyn ni ar hyn o bryd yn cynhyrchu mwy na 500 o wahanol ddietau bwyd dofednod, gan gynnig buddion rhagorol o ran perfformiad a llesiant eich adar ac, yn y pen draw, o ran eich elw.

Bwyd dofednod ffres, yn unol â’ch manyleb chi

Rydyn ni’n gwneud ein bwyd dofednod yn unol â’ch manyleb chi, yn hytrach na’i wneud fel stoc – felly mae bob amser yn ffres.

Rydyn ni wedi llunio dietau ar gyfer pob math o ddofednod masnachol; dofednod maes, dodwyr ysgubor a dodwyr organig, yn ogystal â dietau bridio arbenigol ar gyfer stoc rhieni neu stoc creu llinach a bwyd tymhorol i dyrcwn.

Rydyn ni’n llunio bwydydd dofednod â ffocws penodol sy’n rhoi mwy o reolaeth ar faint wyau, gwell ansawdd i’r plisg, yn ogystal ag wyau â mwy o faeth i fodloni rhai o ofynion penodol y farchnad.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng lefelau maeth, egni a pherfformiad ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich haid.

Rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu wyau am 90 o flynyddoedd, gan wneud ein bwyd ein hunain am gryn dipyn o’r amser hwnnw, ac mae ein dull o fynd ati i gynhyrchu bwyd dofednod wedi bod yn gyson – defnyddio’r deunyddiau crai gorau (yn hytrach na sgil-gynhyrchion newidiol ac anghyson) a pheidio â thorri corneli.

Cynhwysion o ffynonellau rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw

Am lawer o flynyddoedd o gynhyrchu bwyd dofednod, rydyn ni wedi bod yn gyson ein dull o fynd ati i gynhyrchu bwydydd dodwyr.

Fel cyflenwyr bwyd dofednod arbenigol, mae ein dull o fynd ati i reoli ansawdd yn ddigyfaddawd gan ddefnyddio cynhwysion bwyd o ffynonellau rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, sy’n ein galluogi ni i sicrhau bod y bwyd yn gyson o ran y mâl, ac o ran y maeth sy’n cael ei roi i’r adar rydyn ni’n eu bwydo.

Mae ein melin bwyd dofednod arbenigol wedi’i chynllunio i falu deunyddiau crai cystal â phosibl, gan ddefnyddio unrhyw un o’n 18 gwahanol osodiad malu, ac mae’n cynnig y mâl bwyd mwyaf cyson yn y DU i’r adar rydyn ni’n eu bwydo.

Mae’r gwahanol osodiadau malu’n golygu ein bod ni’n gallu cynhyrchu bwydydd yn benodol ar gyfer pob cyfnod o gylch bywyd yr adar yn ogystal ag ar gyfer pob math o adar.

....