....

Support and guidance, every step of the way

..

Cymorth ac arweiniad, bob cam o’r ffordd

....

....

At Wynnstay Humphrey Feeds & Pullets everything we know goes into advancing your poultry performance.  Our team of experienced poultry specialists will work with you to optimise the performance of your flock, and ultimately your profit.

As dedicated poultry specialists with an 90-year history of advancing poultry performance, we understand that farmers trust us with their livelihoods, so we are passionate about passing on the knowledge we have gained.

Achieving your laying objectives

We know that no one flock is the same, which is why your experienced poultry specialists can work with you every step of the way to make sure that your birds have the right feed, ventilation, water and environmental conditions to meet your laying objectives.

Whether developing a diet to meet the specific needs of your flock, or finding the right grist for the birds or advising on bird husbandry and welfare, we want you to profit from our knowledge, and have the years of dedicated poultry expertise to ensure the management and performance of your flock is optimised.

..

Yn Wynnstay Humphrey Feeds & Pullets rydyn ni’n defnyddio popeth rydyn ni’n ei wybod i hyrwyddo perfformiad eich dofednod.

Fe fydd ein tîm profiadol o bobl sy’n arbenigo mewn dofednod yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich haid chi’n perfformio ar ei gorau ac, yn y pen draw, yn sicrhau’r elw gorau i chi.

A ninnau’n gwmni sydd wedi bod yn arbenigo mewn dofednod yn benodol, gyda hanes 90 mlynedd o hyrwyddo perfformiad dofednod, rydyn ni’n deall bod ffermwyr yn ymddiried eu bywoliaeth i ni, felly rydyn ni’n angerddol ynglŷn â rhannu’r wybodaeth rydyn ni wedi’i hennill.

Yn cyflawni’ch amcanion dodwy

Rydyn ni’n gwybod bod pob haid yn wahanol, a dyna pam y gall eich arbenigwyr dofednod profiadol chi weithio gyda chi bob cam o’r ffordd i wneud yn siŵr bod eich adar yn cael y bwyd, yr awyriad, y dŵr a’r amodau amgylcheddol iawn i ateb eich amcanion dodwy chi.

Boed yn datblygu diet i ddiwallu anghenion penodol eich haid chi, neu’n dod o hyd i’r mâl cywir i’ch adar neu’n cynghori ar hwsmonaeth a llesiant yr adar, rydyn ni eisiau ichi fanteisio ar bopeth rydyn ni’n ei wybod, ac mae gennym ni flynyddoedd o brofiad o arbenigo mewn dofednod a fydd yn gwneud yn siŵr bod eich haid yn cael ei rheoli’n dda a’i bod yn perfformio ar ei gorau.

....